This browser doesn't support Spotify Web Player. Switch browsers or download Spotify for your desktop.

Y Cledrau

Popular

  1. 1.
    Cyfarfod o'r Blaen
    4:110:30
  2. 2.
    Cliria dy Bethau
    3:480:30
  3. 3.
    Peiriant Ateb
    2:580:30
  4. 4.
    Swigen o Genfigen
    2:370:30
  5. 5.
    Pwy Dd'udodd Fydda I Lawer Gwell?
    3:220:30
Ffurfiwyd Y Cledrau yn 2012 yn Ysgol y Berwyn gan Joseff Owen (llais a gitâr), Ifan Prys (llais a gitâr) a Marged Gwenllian (gitâr fas a llais cefndir), cyn ychwanegu Alun Lloyd, cefnder Joseff o Sir Fôn fel drymiwr.
Ers ffurfio, mae dylanwadau Y Cledrau wedi trymhau, gan wyro tuag at sŵn eu rhieni maeth, Candelas, yn ogystal â bandiau megis Kings of Leon, Band of Skulls a Big Leaves.
Treuliodd y band gyfnod gydag Ifan Jones, Candelas, yn gweithio ar eu EP cyntaf ‘Un Ar Ôl Y Llall’ a ryddhawyd yn 2015. Be sy’n taro dyn yw’r dyfnder eithriadol sydd i’w geiriau. Brawddegau llawn poer sy’n trafod y perygl o gael dy ddal ym magl bywyd pob dydd. Mae pob cân yn cael eu gyrru gan riffiau ailadroddus, pwerus, heb unrhyw osteg. Mae ‘na ynni aeddfetach nag ancst arddegau yn gyrru’r EP, hyd at y diweddglo epic a geir yn y gân Ail-Ailadrodd.
Rhyddhaodd Y Cledrau y gân ‘Cam Wrth Ddiflas Gam’ ar y casgliad i ddathlu pen-blwydd I KA CHING yn 5 oed, sef ‘V’.
Rhyddhawyd albwm gyntaf Y Cledrau – ‘Peiriant Ateb’ ar y 1af o Ragfyr 2017.
Ers diwedd Awst 2017, mae’r band wedi bod yn rhyddhau traciau’r albwm bob yn ychydig i’w chwarae ar Radio Cymru a Radio Wales. Bu ‘Cliria Dy Bethau’ yn Drac yr Wythnos ddechrau Medi a chwaraewyd ‘Swigen o Genfigen’ fel rhan o ‘mix tape’ Bethan Elfyn ar Radio 6.

896

Monthly Listeners

285

Followers

Where people listen

Albums

Singles

Discovered On

Related Artists

Listen to Y Cledrau now.

Listen to Y Cledrau in full in the Spotify app